Bydd y ddarlith arbennig hon gan Craig Owen, Pennaeth Cymru dros Heddwch, yn edrych ar ‘etifeddiaeth heddwch’ y teulu Davies, Teml Heddwch unigryw Cymru, a straeon anghyffredin pobl gyffredin sydd, dros y can mlynedd diwethaf, wedi siapio swyddogaeth Cymru yn y dasg o greu gwell byd. A oes modd iddynt ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ryng-genedlaetholwyr?
Ymunwch â ni mewn rhaglen o ddigwyddiadau mis o hyd i nodi cyfraniad rhyfeddol cenedlaethau o bobl a mudiadau ysbrydoledig... ac i siapio dyheadau 'cenhedlaeth newydd o ryngwladolwyr'.
Gallwch gymryd rhan yn y Prosiect Cymru dros Heddwch mewn sawl ffordd, ble bynnag yr ydych yng Nghymru a beth bynnag yw eich diddordebau. Cychwynnwch yma, a chrëwch eich ‘Llwybr Heddwch’ eich hun drwy’r prosiect a thu hwnt.
Roedd #WythnosFfoaduriaid2017 ym mis Mehefin yn dathlu 'gorffennol gwahanol a dyfodol ar y cyd'. Dewch i weld sut mae Cymru wedi cynnig lloches yn ystod y can mlynedd diwethaf i bobl sydd wedi dioddef oherwydd rhyfeloedd - o'r Rhyfel Byd Cyntaf yng Ngwlad Belg, i Syria heddiw - a'r ymgyrch i fod y cyntaf yn y byd i fod yn 'Genedl Noddfa'?.
Daeth gweithgareddau rhaglen Cymru dros Heddwch i ben fis Rhagfyr 2018. Mae’r wefan hon bellach yn archif i’r gwaith a ymgymerwyd dros gyfnod canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf o 2014-18 gan gymunedau, gwirfoddolwyr a phartneriaid ar draws Cymru, yn dadorchuddio stori Treftadaeth Heddwch Cymru o’r Rhyfel Byd Cyntaf hyd heddiw. Nod y prosiect oedd ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i ddod yn weithredol mewn materion rhyngwladol, a bydd y gwaith hwn yn ffurfio’r sylfaen i Raglen Gweithrediad Byd-eang newydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer 2019-24.
Mae tîm Cymru dros Heddwch o fewn prosiectau'r WCIA yn dod ag ystod eang o sgiliau ac arbenigedd er mwyn gefnogi gwirfoddolwyr , ysgolion , grwpiau ieuenctid a chymdeithas sifil wrth archwilio treftadaeth heddwch Cymru.
Mae'r Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn arwain consortiwm o bartneriaid sy'n cynnwys sefydliadau o'r sectorau heddwch , treftadaeth , academaidd ac ieuenctid.