Gwrthwynebwyr Cydwybodol a cyfle am ymchwil pellach ee T H Parry-Williams

Blwyddyn academaidd newydd ac adnodd newydd! Mae’r adnodd ar-lein newydd (dewiswch ‘Pearce Register’) i ganfod gwrthwynebwyr cydwybodol Cymru, a lansiwyd gan Aled Eirug yn yr Eisteddfod, am fod o ddiddordeb i bob math o addysgwyr a myfyrwyr - o brosiectau'r ardal leol mewn ysgolion i waith ymchwil myfyrwyr ein prifysgolion. Gweler isod enghraifft o ymchwil diddorol ar beth oedd  effaith gwrthwynebu cydwybodol yn y Rhyfel Mawr ar yrfa gynnar y bardd T H Parry-Williams.

 

T. H. Parry-Williams a helynt y Gadair Gymraeg yn Aberystwyth

yn 1919-1920

Gan Dr Bleddyn O Huws o Brifysgol Aberystwyth.

 

Cofrestrodd T. H. Parry-Williams fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yntau ar y pryd yn ddarlithydd cynorthwyol yn Adran y Gymraeg yn Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, fel y’i gelwid yr adeg honno. Bu Cadair y Gymraeg yn wag am gyfnod o bum mlynedd ar ôl marw’r Athro Edward Anwyl yn 1914, ond pan ddaeth diwedd y rhyfel aethpwyd ati i hysbysebu’r swydd.

Penderfynodd Cyngor y Coleg yn 1919 greu dwy gadair yn yr Adran, y naill mewn llenyddiaeth a’r llall mewn iaith, a hynny wedi i deulu Is-Lywydd y Coleg, David Davies AS o Landinam, gyflwyno rhodd o £100,000 i’r Coleg er mwyn galluogi llenwi cadeiriau a adawyd yn wag yn ystod y Rhyfel. T. Gwynn Jones, y bardd a’r llenor a’r ysgolhaig a oedd yn Ddarllenydd yn yr Adran Gymraeg, a benodwyd i’r gadair mewn llenyddiaeth, ac fe argymhellwyd penodi T. H. Parry-Williams i’r gadair mewn iaith. Byddai’r penodiad wedi’i wneud yn ddigon didrafferth oni bai i rai pobl leisio eu gwrthwynebiad i ymgeisyddiaeth T. H. Parry-Williams oherwydd ei safiad fel heddychwr yn ystod y Rhyfel. Protestiodd amryw ganghennau o Gymrodyr y Rhyfel Mawr ynghyd â nifer o drigolion tref Aberystwyth a lofnodd ddeiseb yn erbyn ei benodi, ac yr oedd ambell aelod o gyngor y Coleg hefyd yn ffyrnig-wrthwynebus i’w gais. Yr oedd y bobl hyn o blaid penodi Timothy Lewis i’r gadair iaith yn lle Parry-Williams.

 Thomas Herbert Parry-Williams (1887-1975) was the eldest son of the headmaster of the elementary school at Rhyd-ddu, a small village at the foot of the western side of mount Snowdon, and was a pupil there until leaving at the age of 11 to further his education at Porthmadog County School. After winning a scholarship to read Welsh at the University College of Wales Aberystwyth in 1905, he graduated with first class honours in 1908 (the first student ever at the College to achieve a first in Welsh) and obtained second class honours in Latin in 1909. He won a Meyrick scholarship to study Celtic at Jesus College Oxford where he became a student of the renowned Celtic philologist Sir John Rhŷs. From Oxford he went to Germany after winning another scholarship that enabled him to study Celtic philology at the University of Freiburg under the supervision of the eminent Celtic scholar, Rudolf Thurneysen. After Freiburg he went on to Paris and studied at the Sorbonne while he held a University of Wales fellowship. In his third year as a fellow Sir Edward Anwyl, his Welsh professor and mentor at Aberystwyth, offered him an opportunity to return to his Alma Mater to give a series of lectures. In December 1913 Prof Anwyl had been appointed Principal of the newly created Training College at Caerleon, and wrote to Parry-Williams urging him to return to Aberystwyth to lecture under his supervision and support. However, in August 1914 Prof Anwyl died unexpectedly at the age of 48, and Parry-Williams joined his two colleagues in the Welsh Department, T. Gwynn Jones and Timothy Lewis, as a temporary lecturer whose contract had to be renewed annually.   

HH - erthygl Bleddyn Huws - llun TH Parry Williams.jpg

T H Parry Williams

Yr oedd Timothy Lewis hefyd yn ddarlithydd cynorthwyol yn yr Adran Gymraeg, ond yn wahanol i’w gyd-weithiwr iau, Parry-Williams, fe wirfoddolodd ef ar gyfer y fyddin ym mis Hydref 1915 o dan gynllun recriwtio’r Arglwydd Derby. Mae’n debyg i 350,000 o ddynion ymuno â’r fyddin trwy Gynllun Derby, ac fel math o abwyd dywedid wrthynt na fyddai gwŷr priod ond yn cael eu galw petai’r cyflenwad o ddynion sengl yn cael ei ddihysbyddu. Yr oedd Timothy Lewis erbyn 1915 yn ddyn priod ers pedair blynedd, a ganwyd merch iddo ef a’i wraig ym mis Gorffennaf 1916, ryw dri mis cyn iddo gael ei alw i wasanaethu yng Nhatrawd Brenhinol y Gynnau Mawr, y Royal Gunners Artillery. Bu’n ymladd yn y brwydrau yng Ngwlad Belg a Ffrainc, lle cafodd ei anafu. Bu ym mrwydrau’r Somme ac Ypres ac yr oedd yn agos iawn at Hell Fire Corner yn 1917. Trwy gydol y cyfnod y bu’n y fyddin, parhâi i dderbyn cyfran o’i gyflog gan y Coleg, sef y swm a oedd yn weddill ar ôl tynnu’r arian a gâi fel milwr.

Un arall a dderbyniai  gyfran o’i gyflog tra oedd yn y fyddin oedd Oscar Parry-Williams, brawd iau T. H. Parry-Williams, a oedd, cyn cael ei alw i fyny, yn glerc yn swyddfa Cofrestrydd Coleg Aberystwyth. Ymunodd ef â Chorfflu Meddygol y Fyddin ym mis Chwefror 1916, a derbyn clod mawr am ei waith fel clerc yn swyddfa cyfarwyddwr Corfflu Meddygol y Fyddin Brydeinig yn Ffrainc. Yr oedd dau frawd arall Parry-Williams, Willie a Wynne, hefyd wedi ymuno â’r lluoedd, Willie fel aelod o’r fyddin Americanaidd, ar ôl iddo ymfudo i America a dod drosodd i ymladd gyda’r Cynghreiriaid yn Ffrainc, a Wynne fel aelod o’r Ffiwsilwyr Cymreig.

 

Cafwyd ymgyrch yn y wasg yn erbyn penodi T. H. Parry-Williams. Ymosodai rhai gohebwyr arno oherwydd ei safiad yn ystod y Rhyfel, a bwrid amheuaeth ar ei deilyngdod fel ysgolhaig. Ymhlith y rhai mwyaf ffyrnig yn ei erbyn yr oedd y newyddiadurwr a’r dramodydd Beriah Gwynfe Evans, a’r ysgolhaig Cymraeg, Gwenogvryn Evans, a oedd yn aelod o Gyngor Coleg Aberystwyth. Fe ddaeth yn amlwg fod gan y ddau hyn eu rhesymau personol dros ffafrio Timothy Lewis: Beriah Gwynfe Evans oedd ei dad-yng-nghyfraith ac yr oedd Gwenogvryn yn gyfaill agos iddo. Credai’r ddau bod ymgais fwriadol wedi bod gan yr hyn a alwent yn ‘glic pasiffistaidd’ yn Aberystwyth i gadw Timothy Lewis allan o’r Gadair Gymraeg.

Byth oddi ar i Edward Anwyl gyhoeddi ei fod yn gadael Aberystwyth yn 1913, bu Beriah wrthi’n hybu ymgais ei fab-yng-nghyfraith am gael llenwi’r gadair, a bu’n ceisio perswadio ei gyfaill E. T. John, Aelod Seneddol Dwyrain Dinbych hyd at 1918, i ddefnyddio’i ddylanwad i bwyso ar Brifathro’r Coleg ac ar aelodau o’r Cyngor er mwyn canfasio cefnogaeth i Timothy. Mae modd gweld yn y gyfres o lythyrau hynod ddadlennol a anfonodd Beriah at ei gyfaill o wleidydd pa mor daer yr oedd dros deilyngdod ei fab-yng-nghyfraith i etifeddu’r Gadair Gymraeg, a hynny’n bennaf oherwydd cryfder ei gymwysterau fel ysgolhaig Celtaidd. Ystyriai Beriah ei fod ben ac ysgwydd uwchlaw Parry-Williams, ac felly hefyd Gwenogvryn Evans, a honnai i Joseph Vendryes, cyn-Athro Parry-Williams ym Mhrifysgol y Sorbonne ym Mharis, ddweud hyn am ei gyn-ddisgybl: ‘Dr. Parry-Williams has published nothing to interest a scholar’. Gan ei fod ddeng mlynedd yn hŷn na Pharry-Williams, yr oedd gan Timothy Lewis beth mantais arno. Yr oedd ganddo o leiaf dair cyfrol ysgolheigaidd safonol i’w enw, tra nad oedd gan Barry-Williams ond un, sef rhan o’i draethawd doethuriaeth ar seinyddiaeth y Gymraeg a’r Llydaweg a gyhoeddwyd gan wasg Honoré Champion ym Mharis yn 1913.

Pan ddaeth yn amser i Gyngor y Coleg ystyried y rhestr fer am swydd Athro’r Gymraeg ym mis Medi 1919, a phan ddatgelwyd bod nifer o wrthwynebiadau cryfion wedi eu cyflwyno yn erbyn penodi T. H. Parry-Williams, penderfynodd aelodau’r Cyngor ohirio penodi tan fis Mehefin 1920. Oherwydd yr amgylchiadau hyn, penderfynodd T. H. Parry-Williams beidio ag adnewyddu ei gytundeb fel darlithydd cynorthwyol yn yr Adran a chofrestru fel myfyriwr blwyddyn gyntaf er mwyn astudio gwyddoniaeth yn y Coleg fel paratoad ar gyfer mynd i astudio meddygaeth yn ysbyty Barts yn Llundain. Cafodd lwyddiant ysgubol yn ei arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn ac ennill ysgoloriaeth lawfeddygol werth £20. ‘Aberystwyth surprise’ oedd y pennawd yn y Western Mail pan adroddwyd am y newydd hwn, a bu cryn ymateb yng ngholofn lythyrau sawl papur newydd gan gefnogwyr a gelynion Parry-Williams fel ei gilydd.

Cythruddwyd Henry Parry-Williams, tad T. H. Parry-Williams, gymaint gan yr ymosodiadau annheg ar ei fab yn y wasg, yn enwedig yn y wasg leol yn Arfon, fel yr ysgrifennodd gyfres o lythyrau cyfrinachol at y newyddiadurwr dylanwadol o Gaernarfon, Edward Morgan Humphreys, a oedd yn olygydd y Genedl Gymreig a’r North Wales Observer and Express. Yr oedd yn awyddus iawn i gyflwyno safbwynt y teulu ynghylch helynt y Gadair Gymraeg, ac ateb rhai o’r cyhuddiadau maleisus ac enllibus a gyhoeddid yn erbyn ei fab yn y wasg. Mae’r llythyrau hyn – nad ydynt wedi eu trafod gan neb o’r blaen ‒ yn taflu goleuni newydd a diddorol ar agwedd T. H. Parry-Williams at yr helynt ar y pryd, a hefyd ar safbwynt ei dri brawd a fu’n gwasanaethu yn y fyddin. Teimlai’r tri yn ddig am fod pobl yn ymosod ar eu brawd mawr ac yn ei fychanu fel ysgolhaig. Does dim tystiolaeth fod T. H. Parry-Williams ei hun wedi ymateb yn gyhoeddus i’r ymosodiadau arno: canolbwyntiodd ar ei waith fel myfyriwr yn astudio Ffiseg, Cemeg, Bywydeg a Swoleg yn ystod sesiwn academaidd 1919-20. Pwysleisiai ei dad yn yr ohebiaeth at Edward Morgan Humphreys fod ei fab wedi ei ryddhau gan y Tribiwnlys Apêl yn erbyn consgripisiwn oherwydd ei safiad fel gwrthwynebydd cydwybodol, a hefyd oherwydd ei fod yn cyflawni gwaith o bwysigrwydd cenedlaethol fel darlithydd prifysgol.

Datgela Henry Parry-Williams fod cryn gefnogaeth i’w fab ymhlith staff a myfyrwyr y Coleg, a bod deiseb wedi’i chasglu gan fyfyrwyr a oedd yn gyn-filwyr yn pwyso am gael Parry-Williams yn ei ôl fel darlithydd. Datgela hefyd beth oedd rhesymau ei fab dros ildio’i swydd fel darlithydd a chofrestru fel myfyriwr. Nid pwdu a wnaeth fel yr honnid gan rai, ond penderfynu newid cwrs ei yrfa cyn y byddai’n rhy hwyr iddo wneud hynny. Yr oedd yn 32 oed ar y pryd, ac ofnai, pe byddai’n oedi rhagor, y byddai’n rhy hen i hyfforddi’n feddyg. Yn wir, yr oedd wedi bygwth gadael y Coleg i fynd i astudio meddygaeth yn ôl yn 1915 cyn iddo gael ei ddarbwyllo gan y Llywydd, Syr John Williams, y dylai aros yn ei swydd er mwyn dangos nad yn ofer yr ymddiriedodd y Coleg ei ffydd yn ei ddoniau fel addysgwr ac ysbrydolwr ieuenctid pan roddodd droedle iddo fel darlithydd yn y lle cyntaf. Rhywbeth arall a ddatgelir gan Henry Parry-Williams yw fod Joseph Vendryes wedi gwrthod rhoi tystlythyr i’w fab, er iddo ofyn amdano, am na wirfoddolodd ar gyfer y fyddin a mynd i gynorthwyo’r Ffrancwyr yn awr eu hangen.

Pan ailhysbysebwyd y Gadair Gymraeg ym Mehefin 1920 cyflwynodd Timothy Lewis a T. H. Parry-Williams geisiadau am yr eildro, ac er bod Cymrodyr y Rhyfel Mawr ac eraill yn dal i brotestio yn erbyn penodi’r heddychwr, T. H. Parry-Williams a benodwyd i swydd Athro a Phennaeth Adran y Gymraeg yn y diwedd. Fel gwobr gysur, cynigiwyd swydd Darllenydd mewn llenyddiaeth Geltaidd a phaeliograffeg i Timothy Lewis. Daeth pennod ddigon anodd ac anghysurus yng ngyrfa T. H. Parry-Williams i ben, ac fe arhosodd yn Athro a Phennaeth nodedig ar yr Adran nes iddo ymddeol yn 1952.

 

Cyhoeddwyd yr erthygl yn gyntaf yn y 'Prom'. Am fwy o wybodaeth gweler:

‘Nid Nefoedd i gyd mo’r ddaear’: T. H. Parry-Williams a’r Rhyfel Mawr’, Llên Cymru, 37, (2015-16), 70-86.

‘T. H. Parry-Williams a helynt y Gadair Gymraeg yn Aberystwyth yn 1919-1920’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, Cyfres newydd 21 (2015), 69-88.

 

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA