Diwrnod Neges Heddwch ac Ewyllys Da

Dathlu Neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Cymru i’r Byd

 

 neges heddwch (002).jpg 

Eleni Dewis a Chydwybod yw themâu Neges Heddwch ac Ewyllys Da ieuenctid Cymru i’r Byd. Neges sydd yn dechrau gyda: “Does ’na ddim cyfarwyddiadau gennym ni ar sut i adeiladu heddwch, ond dyma beth rydym ni’n ei gredu yw’r sylfeini…”. Disgyblion Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug, fu’n llunio neges eleni ond, dros bron i ganrif, bu miloedd o bobl ifanc wrthi’n llunio, rhannu ac yn ymateb i’r neges heddwch. Y gwir yw na wyddom y stori yn ei chyfanrwydd, felly mae’r Urdd, gyda chefnogaeth prosiect Cymru dros Heddwch, yn galw am ymdrech cenedlaethol i ddadorchuddio’r hanesion cudd er mwyn cloriannu ymroddiad pobl ifanc Cymru i heddwch a dealltwriaeth ryngwladol.

 HH neges heddwch yr urdd (7).jpg

Cefndir y Neges

Y fesen yn dderwen a ddaw, ac felly y bu gyda Neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Cymru. Yn ysbrydoliaeth i’r cyfan, ac yn hwyluso cynulleidfa ryngwladol i’r neges, oedd Gwilym Davies. Do, fe brofwyd siomedigaeth, gan na fu unrhyw ymateb i’r neges gyntaf yn 1922. Roedd hyn cyn defnyddio’r radio a danfonwyd y neges yn ddiwyfr at blant y byd yn gyffredinol. Cysur efallai oedd i Gyfarwyddwr Gorsaf Twr Eiffel ym Mharis ei dderbyn a’i ddanfon yn ei flaen yn Ffrangeg. Ag eto, dyn o weledigaeth a dyfalbarhad oedd Gwilym Davies, ac yn 1924, wedi i’r BBC ddarlledu’r neges am y tro cyntaf, derbyniwyd dau ateb, un o Sweden a’r llall o Wlad Pwyl. Fe aeth yr ymateb o nerth i nerth gydag enillydd Gwobr Heddwch Nobel, Dr Nansen, yn nodi yn 1927: “Rwy’n argyhoeddedig mai angen dynol ryw yw’r ysbryd sydd yn Neges Plant Cymru”. Degawd ar ôl y dechrau distaw, roedd 68 wledydd wedi ymateb. Yna daeth yr Ail Ryfel Byd, ond parhau i ddarlledu eu neges wnaeth ieuenctid Cymru, er mai prin oedd yr ymatebion. Adferwyd yr hen gysylltiadau ar ôl y rhyfel a bu blodeuo ar gysylltiadau newydd. I ategu’r neges, bu hefyd teithiau heddwch dramor a gwersylloedd heddwch yng Nghymru.

 

Dewiswyd y 18fed o Fai fel diwrnod cyhoeddi’r neges i gyd-fynd â dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâg ym 1899. Danfonir y neges ar ran ieuenctid Cymru oll, ond i Gynghrair y Cenhedloedd (nes ei diddymu yn 1946) a’r Urdd y mae’r diolch pennaf am y drefniadaeth a’r ymroddiad i barhau gyda’r neges ar ran y genedl. Drwy gydol ei hanes, mae llwyddiant y neges yn ddibynnol iawn ar frwdfrydedd athrawon eangfrydig a mudiadau eraill ar draws Cymru sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Cyfieithir y neges gan wirfoddolwyr, i nifer lu o ieithoedd, a chroesewir unrhyw gyfraniadau pellach i drosi’r neges i ieithoedd y byd.

 

Cynnwys y Neges

Er yr esblygiad mewn cynnwys a ffurf, yr un yw bwriad y neges. Ar y cychwyn gwelir ailadrodd yr un geiriad dros gyfnod o sawl blwyddyn, megis o 1922 i 1928, a’r prif ffocws oedd ar gasglu’r ymatebion. Yn fwy diweddar gwelir creadigrwydd a gwreiddioldeb yng nghyflwyniadau’r neges gan yr Urdd, boed ar ffurf cân, cerdd neu berfformiad. Bellach, cyfansoddir neges newydd bob blwyddyn, gan amlaf mewn ymateb i ddigwyddiadau cyfredol neu ymgyrch elusennol. Er mwyn rhannu’r cyfoeth hyn o dreftadaeth, mae partneriaeth rhwng yr Urdd, Cymru dros Heddwch, y Llyfrgell Genedlaethol a Chasgliad y Werin, wrthi’n trefnu y bydd casgliad o’r negeseuon ar gael ar safle we Casgliad y Werin. Yn ogystal, bydd modd gweld arddangosfa Cymru dros Heddwch am gefndir y neges, ym mhabell y Llyfrgell Genedlaethol, ar faes Eisteddfod yr Urdd yn y Fflint. Yno hefyd, ar y 1af o Fehefin, bydd yr Urdd yn lansio’r ymgyrch i gwblhau’r casgliad cenedlaethol o gopïau’r neges, a’r alwad i ymuno yn y bwrlwm o gasglu hanesion cudd ei threftadaeth heddwch.

 

Cydweithio i lunio'r neges

 HH -copyright Urdd - message on wyddfa.jpg HH - copyright Urdd message.jpg 

                                                                           Hawlfraint llun ©Urdd                                                       Hawlfraint llun ©Urdd

Blas ar negeseuon o Gymru

  • 1922: Dymuniad, yn dilyn colledion enbyd y Rhyfel Mawr, na “fydd raid i neb ohonom, pan awn yn hŷn, ddangos ein cariad tuag at wlad ein genedigaeth trwy gasáu a lladd y naill y llall.
  • 1938: “Y mae ar y byd fwy o angen, heddiw nag erioed, am yr hyn na all neb ei roddi ond nyni, sef hyder a chyfeillgarwch yr ifanc.”
  • 1947: “Gwyddom ein bod yn byw mewn byd yn llawn o ofn a pherygl. Clywsom am y bomiau atomig dychrynllyd a all ddileu ein gwareiddiad, ond credwn fod yn y byd bethau sydd yn fwy nerthol nag arfau dinistr llwyr, pethau’r meddwl a’r ysbryd, ffydd, gobaith a chariad.”
  • 1951: “Dros y moroedd a thros y cyfandiroedd, y mae yr ifanc yn galw ar yr ifanc i fyw dros heddwch. Hoffem gyda chwi gyflwyno ein hunain i wasanaeth dynolryw. Felly y cawn ni, filiynau ohonom, dyfu i fod yn gyfeillion i bawb heb fod yn elynion i neb.”
  • 1985: “Os gall ieuenctid fel ni siarad â’n gilydd, byddwn yn cyfrannu at well dealltwriaeth rhwng cenhedloedd bach a mawr, gan leihau drwgdybiaeth ac anwybodaeth a rhagfarn ein byd.”
  • 2002: “Drwy rannu profiadau a diwylliant newydd gallwn ddatblygu parch a chariad at eraill. Wrth ddysgu am ein gilydd byddwn yn pontio ein cyfeillgarwch, yn gobeithio cau bwlch anwybodaeth ac agor drysau cyfiawnder a heddwch.” (Rhan o ymgyrch ‘Croeso Calcutta’.) 

HH - Urdd & NLW volunteering (3).jpg

Blas ar yr ymatebion o dramor

  • 1938 Ffrainc: “Aux enfants du pays de Galles. Nous avons écouté votre émission avec joie, car nous avons trouvé ên vous des partisans de la paix.”
  • 1939 Algeria: “Nous sommes de tout Coeur avec vous, dans votre desir d’union entre les jeunesses du monde.”
  • 1946 Yr Almaen: “It is years since we have heard from the Welsh Children. How it grew dark! We should like to hear from you again.”
  • 1948 Japan: “We are really happy to know, after so many years of isolation, that you have sent so hearty words of friendship and love.”
  • 1951 Y Swistir, Pentref y Plant Pestalozzi: “Boed i ddewrder a ffydd plant Cymru fod megis burum i gyffroi meddyliau a chalonnau yn eu cenhedlaeth hwy ac yn y genhedlaeth hon.”
  • 1952: Canada: ”If I were Minister of Education I would make trips to other lands a compulsory part of every child’s education.”
  • 1956 Y Swistir: “Nid oes gennym yr hawl i wneud beth a fynnon…. Rydym yn aelodau o’r un teulu mawr ac yn rhannu cyfrifoldeb am ein gilydd.”
  • 1958 Yr Ariannin: “Mae’r gobeithion ar ieuenctid y byd, ac rydym ninnau ar y cyd gyda chi, am wireddu’r gobeithion hyn.”
  • 1958 India: “At this time, when nature is adorned with new loveliness, let us greet one another in the bond of friendship.”
  • 1960 Rwsia: “Gall bywyd fod yn dda ble nad oes rhyfel…. Felly ystyriwn fod plant Cymru yn gwneud gwaith clodwiw gyda’u Neges o Heddwch ac Ewyllys Da.”
  • 1965 Bwlgaria: “Let our hands be clasped, and let us not permit any power to sow hatred between us.”
  • 1969 Zambia: “The boys and girls of Zambia wish to congratulate the youth of Wales for the initiative ….The youth of Zambia call upon all boys and girls in the world to fight against war, apartheid and all forms of racial discrimination.”
  • 1972 Gweriniaeth Siec: “Rhaid i ni uno yn gwrthwynebu grym y cenhedloedd mawr sy’n dymuno gwaredu’r byd o’r holl ieithoedd, diwylliannau a chenhedloedd ‘gwirion a disynnwyr o fach’.”

 

Dyfodol y Neges

A hithau’n agosáu at ganmlwyddiant y neges, y bwriad yw y bydd yn parhau i fynd o nerth i nerth wrth gyfnewid negeseuon ar ffurfiau newydd megis yn ddigidol trwy gyfryngau cymdeithasol. Dewch yn rhan o’r stori Heddwch drwy rannu neges eleni gyda’ch cysylltiadau rhyngwladol gan ddanfon yr ymatebion at heddwch@urdd.org

 

Cloriannu’r Neges

Ymunwch a ni yn y chwilfa fawr am dreftadaeth heddwch yr Urdd drwy wirfoddoli. Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect pedair blynedd sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’i reoli gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Cwestiwn craidd y prosiect yw: yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i ganfod heddwch? Mae traddodiad yr Urdd a’r Neges Heddwch yn rhan bwysig o’n treftadaeth, felly rydym wrthi’n cefnogi’r mudiad a gwirfoddolwyr i ymchwilio i hanes diddorol y neges, yr ymatebion, y gwersylloedd a’r teithiau. Gobeithiwn y bydd ystod eang ac amrywiol o gyfranwyr yn ymuno yn y chwilfa fawr, a chynigwn hyfforddiant treftadaeth am ddim i wirfoddolwyr sydd yn dechrau ar y daith o gasglu neu gyflwyno hanesion. Heb wirfoddolwyr, fe aiff gwybodaeth am y dreftadaeth yn angof, felly da chwi, cysylltwch â Cymru dros Heddwch cymrudrosheddwch@wcia.org.uk neu'r Urdd ar heddwch@urdd.org i rannu eich stori neu i glywed mwy am y cyfleoedd gwirfoddoli. 

 

.

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA