Gwrthwynebiad i RhB1 ym Mhrydain - darlith gymunedol

Gwrthwynebiad ym Mhrydain i’r Rhyfel Byd Cyntaf

 

Cynhelir darlith gymunedol Cymru dros Heddwch am ystod ac amrywiaeth y ‘Gwrthwynebiad ym Mhrydain i’r Rhyfel Byd Cyntaf’ yn Y Morlan, Aberystwyth, am 2pm ar Ddydd Mercher 16eg o Fawrth 2016. Bu farw dros filiwn o filwyr o Brydain a’i hymerodraeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a bu’n ganrif nes i Brydain lwyddo talu’r dyledion beichus a ddeilliodd o’r rhyfela.

 

Traddodir y ddarlith gan Rupert Gude a esboniodd bwysigrwydd y pwnc: “Yn annhebyg i’r hyn a gyflwynwyd yn y wasg, nid oedd Prydain yn unedig o blaid rhyfel. Mae fy narlith am ganolbwyntio ar y rhai a ymgyrchodd i atal y rhyfel, a’u hymdrechion i hyrwyddo heddwch. Pobl megis Sylvia Pankhurst a ymgyrchai yn Llundain; Bertrand Russell - yn enedigol o Gymru - a ddarlithiau’n daer; a Helen Crawfurd yn uchel ei gwrthwynebiad wrth gefnogi’r tlawd yng Nglasgow.” Ychwanegodd: “Bydd y ddarlith hefyd yn ystyried rhai a fu’n mynegi eu gwrthwynebiad mewn dulliau mwy creadigol, megis y beirdd Wilfred Owen a Siegfried Sassoon a’r artist Paul Nash, yn ogystal ag effaith y gwrthwynebiad i ryfel ar agweddau pobl ar ôl y rhyfel.”

 

Gyda lleoliad hygyrch Y Morlan yn Aberystwyth, croesawir pawb i’r ddarlith brynhawn a’r drafodaeth a lluniaeth i ddilyn. Dywedodd Craig Owen, Pennaeth Cymru Dros Heddwch: “Megis gyda’r gwrthdaro cyfredol yn Afghanistan, Irac a Syria, roedd yr ystod barn ar rôl Prydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn eang iawn, ac yn wir yn rhan o’r hanesion cudd nad ydym efallai yn gwybod gymaint amdanynt heddiw. Yn arbennig yng Nghymru, gyda’i thraddodiad anghydffurfiol a’i hunaniaeth lai ymerodrol, gwelwyd unigolion ac ymgyrchoedd egnïol yn herio’r tywallt gwaed. Bydd darlith Rupert Gude yn gyfle i osod cyfraniad Cymru i ymgyrchoedd heddwch y Rhyfel Byd 1af yn y cyd-destun ehangach Prydeinig.”

 

Ychwanegodd Craig Owen: “Yn dilyn erchyllterau’r rhyfel a cholledion garw cymunedau yng Nghymru, daeth nifer o ymgyrchwyr heddwch, a ffieiddiwyd atynt rhwng 1914-1918, i’r amlwg fel arweinwyr ysbrydoledig. Etholwyd Gwrthwynebwyr Cydwybodol yn Aelodau Seneddol; yn 1922 sefydlwyd yr Urdd fel mudiad heddwch i’r ifanc; yn 1923 arwyddodd 390,296 o ferched ddeiseb ar i America ymuno a Chynghrair y Cenhedloedd; ac yn 1926 ymunodd miloedd o ferched ym Mhererindod Heddwch Gogledd Cymru o Gaernarfon i Lundain. Mae’r hanesion hyn, o gael eu casglu yn ein cymunedau, am ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl i adnabod ein cyd-ddibyniaeth ryngwladol.”

Petition from women of Wales 1924

 

Arddangosfa a Darlithoedd Cofio dros Heddwch
Hon yw’r ddarlith olaf o dri yn cyd-fynd ag Arddangosfa Cymru dros Heddwch sef ‘Cofio dros Heddwch’ yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, tan 16 Ebrill. Bydd darlith Rupert Gude yn y Saesneg ac mae’n cyd-fynd ag arddangosfa ‘The Road to Peace’ a welir yn y Ganolfan Celfyddydau yn Aberystwyth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar www.cymrudrosheddwch.org.

Croeso i bawb ar y diwrnod, gellir cofrestru rhagflaen hefyd i hwyluso paratoi ymborth.

 

Mae Cymru dros Heddwch yn brosiect pedair blynedd sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac sy'n cael cefnogaeth gan ddeg o sefydliadau partner gan gynnwys prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a mudiadau megis yr Urdd a Chymdeithas y Cymod. Cwestiwn craidd y prosiect yw: yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i sicrhau heddwch? Prosiect treftadaeth yw Cymru dros Heddwch, sy’n gweithio gyda chymunedau ar draws Cymru; mae’r prosiect hefyd yn edrych tua’r dyfodol o ran ysgogi trafodaethau sy’n ymwneud â materion heddwch er lles cenedlaethau’r dyfodol.

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA