Ffoaduriaid Belgaidd yng Nghymru: Galwad am Hanesion Heddwch Cudd

Mae prosiect Cymru dros Heddwch Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru mewn partneriaeth â Sefydliad Coffa David Davies ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi lansio galwad i ddwyn ynghyd 'hanesion heddwch cudd' dros 4,500 o Ffoaduriaid Belgaidd y daeth Cymru yn gartref iddynt drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd yr alwad yn cael ei sbarduno gan Christophe Declercq, un o arbenigwyr blaenllaw gwledydd Prydain ar y pwnc, o Goleg Prifysgol Llundain ac Athrofa Amsab / Prifysgol Ghent, a swyddog cyswllt y Deyrnas Unedig ar gyfer Ffoaduriaid Belgaidd 1914-18.

Mae prosiect Cymru dros Heddwch yn cefnogi grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr i ystyried un cwestiwn mawr:

Yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i sicrhau heddwch?  

Arweiniodd effeithiau rhyfel at greu mudiadau heddwch sydd wedi siapio ein meddylfryd cenedlaethol hyd y dydd heddiw. Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol i ddatblygu arddangosfa 'Cofio dros Heddwch', sydd i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 16 Ionawr ac 16 Ebrill, a dyma'r gyntaf o dair darlith yn Aberystwyth fydd yn edrych ar effaith rhyfel yng Nghymru. Mae'r ddarlith yn bwynt allweddol mewn taith a drefnwyd gan Gymru dros Heddwch, lle bu Christophe yn ymweld â chymunedau ac ysgolion ym Mangor, Porthaethwy, Trawsfynydd, y Bermo ac Aberystwyth er mwyn rhoi dyfnder i stori #Ffoaduriaid Belgaidd Cymru.

Roedd darlith Christophe yn ystyried:

  • Cyd-destun argyfwng y Ffoaduriaid Belgaidd ym 1914, pan fu'n rhaid i un ymhob chwech o'r boblogaeth ffoi wrth i ffryntiau byddinoedd y Rhyfel Byd Cyntaf ddynesu - y byddinoedd a fyddai'n brwydro ar gaeau Fflandrys am y pedair blynedd nesaf.
  • Sut, pam a ble y dihangodd pobl ledled Ewrop, sut gwnaeth y ffoaduriaid gyrraedd Cymru a Phrydain - a dylanwad gwleidyddiaeth, braint a dosbarth.
  • Y croeso brwd mewn sawl cymuned i Ffoaduriaid Belgaidd ym 1914, gan gynnwys enghreifftiau yn Aberystwyth a'r Rhyl.
  • Ble roedd ffoaduriaid Cymru? Y cymunedau croesawgar, ardaloedd ymsefydlu arbennig, ysgolion a diwydiant.
  • Yr heriau o ran cefnogaeth, cymathu a cholledion wrth i'r Rhyfel Byd Cyntaf - yr oedd disgwyl iddo ddod i ben ar ôl ychydig fisoedd - rygnu ymlaen am flynyddoedd.
  • Cyfraniad Ffoaduriaid Belgaidd i Gymru, diwylliant Cymru, cerddoriaeth, cerdd, celf ac addysg, ac undebau llafur.
  • 'Diflaniad sydyn' - sut a pham y diflannodd ffoaduriaid Belgaidd mor gyflym o'r golwg ac o'r cof.
  • Straeon personol ffoaduriaid, a beth wnaethon nhw ar ôl y rhyfel.
  • Pam fod atgofion Cymru am Ffoaduriaid Belgaidd gymaint yn gyfoethocach na rhannau eraill o wledydd Prydain?
  • Diolchgarwch ddoe a heddiw: atgofion i lawr y cenedlaethau.

Roedd y gynulleidfa yn gymysgedd o fyfyrwyr a phobl cymunedau Ceredigion, a dangosodd y sesiwn holi ac ateb bod llawer o 'hanesion heddwch cudd' o'n cwmpas ym mhobman. Roedd y rhai a gymerodd ran yn cynnwys y teulu sydd bellach yn byw yn Nhy'n y Lon, cartref yr artist Belgaidd Valerius de Saedeleer rhwng 1915 a 1921; a'r tîm oedd yn rhan o'r gwaith o adfer yr Ysgwrn, cartref y Prifardd Hedd Wyn a'i Gadair Ddu adnabyddus sy'n symbol o genhedlaeth goll y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu myfyrwyr Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth hefyd yn tynnu cymariaethau rhwng ymateb y cyfryngau ac ymateb cymunedau i'r Ffoaduriaid Belgaidd ym 1914-15, a'r ymatebion i argyfwng Ffoaduriaid Ewrop heddiw. Cyn y ddarlith cafwyd cyngerdd canmlwyddiant yng Nghapel y Garn Bow Street Aberystwyth, i gofnodi can mlynedd ers diwrnod cynnal cyngerdd ar gyfer Ffoaduriaid Belgaidd - ond bod yr arian a godwyd yn 2016 yn cefnogi Ffoaduriaid o Syria. Cafwyd sylw i Aberystwyth yn y cyfryngau yn y cyfnod yn arwain at Nadolig 2015 oherwydd eu croeso i rai o'r teuluoedd cyntaf o Syria i gael eu hadleoli ar ôl ffoi o'r gwrthdaro.    

Wrth gloi'r digwyddiad, meddai Craig Owen, Pennaeth prosiect Cymru dros Heddwch yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru: "Er mwyn gwybod i ba gyfeiriad rydyn ni'n mynd, mae'n rhaid i ni wybod o ble rydyn ni'n dod. Fe gollodd 35,000 o fechgyn Cymru eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf - a sicrhau heddwch yw'r ffordd orau o goffáu'r bechgyn yma, cenhedlaeth goll y Rhyfel. Mae gan Gymru hanes cyfoethog o fudiadau heddwch, pobl a chymunedau sydd wedi gwneud cyfraniad anhygoel i'r byd, a hynny yn aml o dan y radar.  

Gobaith Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yw, drwy ddysgu o dreftadaeth heddwch Cymru yn ystod y can mlynedd diwethaf, y gallwn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ryngwladolwyr a fydd yn siapio rhan Cymru yn y byd ar gyfer y can mlynedd nesaf."

Recordiad(au)

Edrychwch ar ffrwd Twitter #Ffoaduriaid i weld hanes y ddarlith a thaith Cymru dros Heddwch Christophe Declercq.

Ym mis Mawrth, gobeithir trefnu bod recordiadau o'r ddarlith ar gael ar YouTube, fel podlediad, ac fel trawsgrifiad, i fod yn adnodd ar gyfer astudio pellach ac ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sy'n astudio eu hanesion heddwch cudd.

Os hoffech chi wirfoddoli i helpu Cymru dros Heddwch gyda'r gwaith o olygu a chynhyrchu podlediadau, clipiau youtube, trawsgrifiadau neu flogiadau hanes heddwch cudd, e-bostiwch cymrudrosheddwch@wcia.org.uk. 

Ymchwilio i Hanesion Heddwch Cudd

  • Ydych chi'n gwybod Hanesyn Heddwch Cudd am Ffoaduriaid Belgaidd yng Nghymru?
  • Hoffech chi helpu Cymru dros Heddwch i ymchwilio i hanesion heddwch cudd fel gwirfoddolwr / cyfrannwr, neu fel rhan o'ch astudiaethau chi?
  • Hoffech chi gael gweithdai / hyfforddiant cymwysedig ar sgiliau fel digido, trawsgrifio neu gasglu a rhannu hanesion llafar?

Ewch i'n tudalen adnoddau Hanesion Heddwch Cudd ; ein tudalen Gwirfoddoli ; neu cysylltwch drwy yrru e-bost at cymrudrosheddwch@wcia.org.uk neu drwy ffonio 02920821051 / 01248 672104.

Cyfres Darlithoedd ac Arddangosfa Cofio dros Heddwch

Adnoddau Pellach ar Ffoaduriaid Belgaidd yng Nghymru

 

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA