Pabi Gwyn Aberystwyth - Y Stori

Ar hyn o bryd stori newyddion yw a ganlyn, ond ymhen 10 mlynedd tybed a fyddwn yn adlewyrchu ar y digwyddiad fel carreg filltir hanesyddol yn y broses o gymodi cenedlaethol? Er lles cymunedau eraill sy’n dal i wynebu trafodaethau lletchwith, absenoldebau poenus, neu leihad yn y mynychwyr ar Ddiwrnod y Cofio; ar gais i Cyng Alun Williams fe gawn gip olwg ar sut y llwyddwyd i gael cytundeb yn Aberystwyth. Ceir gadarnhad isod o’r arweiniad a’r urddas a ddangoswyd gan gymuned Aberystwyth, y Cyngor, y Lleng Prydeinig, Rhwydwaith Heddwch & Chyfiawnder ac eraill.

Llun: Arweiniad gan Gyngor Tref Aberystwyth yn ystod gorymdaith Diwrnod y Cofio wrth i’r Maer, Endaf Edwards, a’r Dirprwy Faer, Brendan Somers, gario’r torchau pabi coch a gwyn Cyngor y Dref.

PABÏAU GWYN YN ABERYSTWYTH – YR HANES

Dechreuodd Cyngor Tref Aberystwyth osod torch pabi gwyn ger y gofgolofn ryfel ar safle Castell y dref ar benwythnos Sul y Cofio yn 2004. Daeth Mabon ap Gwynfor, ŵyr Gwynfor Evans AS cyntaf Plaid Cymru, yn gynghorydd yn yr etholiadau lleol y flwyddyn honno a gwnaeth gynnig llwyddiannus, a eiliwyd gan y Cyng. Mark Strong.

Fel y mwyafrif o Gynghorau Tref, roedd Aberystwyth wedi hen arfer â gosod torch pabi coch yn y seremoni Dydd y Cofio draddodiadol a gynhaliwyd gan y Lleng Brydeinig ac, oherwydd nad oedd y Lleng Brydeinig yn barod i ganiatáu pabi gwyn yn eu seremoni nhw, roedd y cynnig yn golygu byddai’r Cyngor yn gosod torchau o wahanol liwiau mewn dwy seremoni wahanol. 

Mae’r cynllun pabi gwyn wedi derbyn cefnogaeth gref gan Rwydwaith Heddwch a Chyfiawnder Aberystwyth – cyd-drefniant o ymgyrchwyr heddwch lleol sy’n bodoli ers 1982 – ac arweiniwyd y seremoni gan y Gweinidog Presbyteraidd lleol Pryderi Llwyd.

Yn ôl gwefan y Peace Pledge Union, mae pabi gwyn yn, “Symbol o’r gred fod yna well ffyrdd o ddatrys gwrthdaro …(na) lladd cyd-ddyn”.  Fel y cyfryw, gellir eu gweld i fod yn herio seremonïau pabi coch traddodiadol ac, yn ei dro, gall ymddangos fod y rhain yn cynrychioli derbyn rhyfel yn ddi-gwestiwn.  Mae gwefan y Lleng Brydeinig yn disgrifio Sul y Cofio fel, “Diwrnod i’r genedl i gofio ac anrhydeddu’r rhai sydd wedi aberthu eu hunain, er mwyn sicrhau a diogelu ein rhyddid ni.”

Rhan o’r rheswm pam fo pobl yn teimlo mor angerddol, a pham fo llawer o aelodau’r Lleng Brydeinig wedi bod yn betrusgar wrth ganiatáu i safbwyntiau ehangach i fod yn rhan o’u seremoni nhw, yw bod rhai o’r rheiny sy’n mynychu wedi bod i ryfel ac wedi gweld cymdeithion yn cael eu lladd.  Mae'n bosib bod rhai wedi dioddef o anhwylder straen wedi trawma.  Gall fod perthnasau neu ffrindiau pobl eraill sy’n mynychu’r seremoni wedi cael eu lladd.  I’r bobl yma, gall y seremoni fod yn rhan o’r broses o alaru.  Nid yw’n anodd gweld sut y gall deimlo’n anghysurus i gael pobl neu grwpiau’n bresennol sy’n ymhlygu eu bod yn cwestiynu’r rheswm pam mae milwyr yn brwydro yn y lle cyntaf.

Oherwydd y teimladau hyn, yn ôl pob tebyg, yn 2004 a nes yn ddiweddar iawn, roedd unrhyw fath o gytundeb gyda’r Lleng Brydeinig yn amhosib.  Yn Aberystwyth, er gwaethaf rhai ymdrechion gan y Rhwydwaith Heddwch dros y blynyddoedd, doedd y Lleng Brydeinig ddim eisiau unrhyw beth i’w wneud â phabïau gwyn.  Roedd cynnal seremoni ar ddiwrnod gwahanol o’r un penwythnos yn ddadleuol hyd yn oed. 

Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith fod llawer o aelodau’r Cyngor Tref wedi newid yn etholiadau 2008 a 2012, cadwodd y Cyngor at ei bolisi cytbwys a sefydlwyd yn 2004, o gefnogi gosod y ddwy dorch.  Yr unig achos lle bu pethau bron â mynd yn strach oedd yn 2008, pan oedd y bleidlais o blaid parhau yn dibynnu ar bleidlais fwrw’r Maer, Sue Jones-Davies.  Pan ymddeolodd Pryderi Llwyd yn y pen draw, fe wnaeth Rhidian Griffiths o’r un capel Presbyteraidd, Capel y Morfa, gymryd ei le i arwain y seremoni pabi gwyn.

Am flynyddoedd lawer, cynhaliwyd y seremoni pabi gwyn ar y Dydd Sadwrn, er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro ar Sul y Cofio.  Yn y pen draw, penderfynodd aelodau o Rwydwaith Heddwch a Chyfiawnder Aberystwyth eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwthio o’r neilltu’n ormodol, ac fe wnaethant ddechrau cynnal seremoni ar brynhawn Sul ar Sul y Cofio, wedi i’r brif seremoni wasgaru, gan ychwanegu eu torchau pabi gwyn at y rhai coch a osodwyd ar risiau’r gofgolofn ryfel yn y bore. 

Yna, llynedd, yn dilyn y seremoni pabi gwyn fwyaf erioed ger y gofgolofn, lle mynychodd tua 60 o bobl, daethpwyd o hyd i’r pedair torch a osodwyd wedi eu stwffio i mewn i fin sbwriel gerllaw y dydd canlynol.  Arweiniodd y cyhoeddusrwydd yn y wasg a ddilynodd at chwerwder ac, yn amlwg, fe roddodd achos i’r Lleng Brydeinig i bwyso a mesur. 

Ym mis Gorffennaf eleni, aeth swyddogion lleol y Lleng Brydeinig at Gyngor Tref Aberystwyth, yn anffurfiol, i geisio siarad â’r cynghorwyr am y trefniadau ar gyfer Dydd y Cofio eleni.  Mynychodd chwe Chynghorydd gyfarfod cychwynnol gyda’r un nifer o aelodau’r Lleng Brydeinig, yng Nghlwb Rheilffordd y dref, ar yr 16eg o Orffennaf.  Dyma le gwnaethpwyd y cynnig yn y lle cyntaf.  Dywedodd y Lleng Brydeinig eu bod eisiau rhoi cyfle i dorchau pabi gwyn i gael eu gosod, fel rhan o’u prif seremoni nhw.  Ni fyddai unrhyw gyfyngiad yn cael ei orfodi ar nifer y torchau ac, yn bwysig iawn, fe wnaethant ddatgan yn glir eu bod wedi ymgynghori â’u hierarchaeth, a oedd yn cefnogi’r cynllun.

Yr amod oedd na ddylai’r torchau, nac unrhyw faneri neu fathodynnau a wisgir gan y mynychwyr, fod yn arddangos datganiadau gwleidyddol o unrhyw fath.  Roedd y Lleng Brydeinig yn teimlo bod hyn yn cyd-fynd â phwrpas y seremoni, sef cofio am yr unigolion neu’r grwpiau hynny a fu farw mewn rhyfeloedd yn unig.  Roedd negeseuon ar dorchau i fod i adlewyrchu hyn.

Roedd ‘datganiadau gwleidyddol’ yn cynnwys “Hedd” (neu “Peace” yn Saesneg) ar babïau.  Roeddwn i’n ymwybodol y gallai hyn fod yn faen tramgwydd.  Fodd bynnag, canlyniad y cyfarfod oedd y buaswn i’n cysylltu â’r Rhwydwaith Heddwch a Chyfiawnder, i’w gwahodd nhw i gwrdd â’r Lleng Brydeinig, os oeddent yn teimlo fod yna bosibilrwydd y byddent yn fodlon derbyn y cynnig.  Yna, mynychais i un o gyfarfodydd y Rhwydwaith Heddwch, i ateb unrhyw gwestiynau ac i lenwi’r bylchau.  Roeddent yn croesawu’r cynnig a, thra’r oedd peth ansicrwydd yn amlwg, fe wnaethant gytuno’n gyflym i fynychu cyfarfod gyda’r Lleng Brydeinig.

Cynhaliwyd y cyfarfod rhwng y ddau fudiad ar yr 16eg o Fedi, yn siambr y Cyngor Tref.  Roedd pedwar aelod o’r ddau grŵp yn bresennol, yn ogystal â thri chynghorydd tref, yn cynnwys y Maer Endaf Edwards, a oedd yn ymddwyn fel cyfryngwr.  Fi oedd y cadeirydd ac, wedi’r cyflwyniadau (oherwydd, er eu bod yn byw un yr un dref, nid oedd llawer ohonynt wedi cwrdd o’r blaen), roedd yn syndod mor gyflym y daethpwyd i gytundeb.

Pan dynnwyd sylw at y ffaith fod pabïau gwyn, yn gyffredinol, yn cael eu cynhyrchu gyda’r geiriau “Peace” neu “Hedd” arnynt, fe wnaeth y Lleng Brydeinig ildio eu hamod gwreiddiol yn gyflym iawn ac, wedi i’r Rhwydwaith Heddwch ymgynghori â’u grwpiau cyfansoddol, roedd y cytundeb yn ei le.

Cynnig arall, a oedd yn dangos difrifoldeb y Lleng Brydeinig, oedd y byddai Côr Gobaith – côr lleol o tua 20 o bobl, sy’n canu caneuon heddwch neu wleidyddol yn bennaf – yn cael eu gwahodd i ganu yng ngwasanaeth eglwys Dydd y Cofio, os oedd modd cytuno ar gân addas gyda’r Ficer. 

Er mwyn paratoi pobl ar gyfer y newid, cytunwyd gwneud datganiad i’r wasg.  Roedd yn cychwyn: “Mae’n bleser gan Gyngor Tref Aberystwyth gyhoeddi, yn dilyn trafodaethau rhwng swyddogion Cangen Aberystwyth o’r Lleng Brydeinig Frenhinol a chynrychiolwyr o Rwydwaith Heddwch a Chyfiawnder Aberystwyth, mai un seremoni Dydd y Cofio fydd eleni, ger y gofgolofn ryfel, ac fe fydd croeso i bawb.”

Dyfynnwyd geiriau Sean Langton, Cadeirydd Lleng Brydeinig Frenhinol Aberystwyth, “Mae pabi coch y Lleng Brydeinig yn anrhydeddu pawb sydd wedi aberthu eu bywydau i ddiogelu’r rhyddid rydym ni’n ei fwynhau heddiw; yn cynnwys y rhyddid i wisgo pabi o’ch dewis chi.  Pe byddai’r pabi’n dod yn orfodol, fe fyddai’n colli ei ystyr a’i arwyddocâd.  Mae’r pabi coch yn symbol cyffredinol o’r Cofio a’r gobaith, yn cynnwys y gobaith am ddyfodol cadarnhaol a byd heddychlon.”

Dywedodd Lotte Reimer o Rwydwaith Heddwch a Chyfiawnder Aberystwyth, “Dyma beth rydyn ni wedi bod eisiau erioed.  Er bod pwyslais gwahanol wedi bod ar y ddwy seremoni, mae gyda ni lawer yn gyffredin hefyd.  Fel mudiad lleol sy’n ymgyrchu dros heddwch yn y byd, mae’n amlwg y dylen ni weithio i gael heddwch gartref ac rydym ni wrth ein boddau o gael derbyn cynnig Lleng Brydeinig Frenhinol Aberystwyth”.

Ar ddydd Sul yr 8fed o Dachwedd, mynychodd bron i 600 o bobl seremoni Sul y Cofio ger y gofgolofn ryfel yn Aberystwyth, yn dilyn yr orymdaith draddodiadol o Hen Neuadd y Dref.  Mae tyrfa lu yn arfer mynychu’r digwyddiad hwn, yn un o leoliadau mwyaf ysblennydd y wlad ar gyfer cofgolofn ryfel, ond y tro hwn roedd ryw 50 o bobl ychwanegol yn bresennol, yn arbennig oherwydd elfen y pabi gwyn. 

Roedd yna beth nerfusrwydd ar y ddwy ochr.  Roedd rhai llengfilwyr, a oedd yn cadw at ragdybiaethau, yn poeni byddai aelodau o’r Rhwydwaith Heddwch a Chyfiawnder yn ceisio llwyfannu rhyw fath o brotest ceisio sylw.  Roedd rhai yn y garfan heddwch yn poeni byddai aflonyddwch i’w glywed ymhlith y llengfilwyr.  Fodd bynnag, mewn gwirionedd, fe wnaeth pawb ymddwyn yn   berffaith ac fe wnaeth y rheiny a oedd yn mynychu am y tro cyntaf ymuno’n llwyr yn nifrifoldeb yr achlysur.

Ymhlith y dwsinau o dorchau coch, gosodwyd torchau pabi gwyn gan y Rhwydwaith Heddwch a Chyfiawnder, Crynwyr Aberystwyth, Menywod mewn Du Borth ac Aberystwyth a Chôr Gobaith, gyda thorch borffor yn cael ei gosod er cof am yr anifeiliaid a fu farw mewn rhyfeloedd.

Yna, yn un llinell, fe aeth y dyrfa i mewn i Eglwys Sant Michael gerllaw a, hanner ffordd drwy’r gwasanaeth, fe wnaeth Côr Gobaith, a oedd yn gwisgo du er parch, ganu trefniant prydferth o ‘A Song of Peace’ i alaw Finlandia.

Er gwaethaf yr ansicrwydd naturiol ynglŷn â dod ag arloesedd yn rhan o achlysur mor draddodiadol, aeth y digwyddiad cyfan cystal ar y dydd ag y gellir fod wedi disgwyl.  Gosododd cefnogwyr y pabi gwyn eu torchau yn yr un ffordd barchus a chynnil ag y gwnaeth pawb arall ac ni sylweddolwyd unrhyw ofnau am amhariad posib.

Tra nad oes unrhyw bwrpas gwadu y cafwyd peth achwyn am yr egwyddor gan rai o aelodau mwyaf ceidwadol y Lleng Brydeinig, y tu allan i’r swigod sefydliadol yma mae’r sylwadau wedi bod yn hynod o gadarnhaol, yn lleol ac ymhellach i ffwrdd, ac yn sicr mae parch i’r ddau grŵp wedi cynyddu.  Roedd y sylw a gafwyd yn y wasg leol, ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, yn gymedrol ac ni wnaethpwyd unrhyw ymdrech i werthu papurau newydd trwy greu dadlau.

Dylid talu teyrnged arbennig am lwyddiant yr achlysur i swyddogion presennol Lleng Brydeinig Aberystwyth sydd, mewn cyferbyniad i’w rhagflaenwyr, wedi dangos gwir arweinyddiaeth ac fe aethant i gryn drafferth i gael cefnogaeth yr aelodau eraill.  Yn yr un modd, rhaid talu teyrnged i Rwydwaith Heddwch a Chyfiawnder Aberystwyth, oherwydd pan ofynnwyd iddynt, fe wnaethant chwarae eu rhan mewn ffordd frwdfrydig a chydwybodol. Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i Mones Farah, sy’n gweinidogaethu ar Eglwys Sant Michael, a roddodd ei lwyr gefnogaeth i gynnwys y cynllun yn ei wasanaeth eglwys.

Er, yn wrthrychol, bod gosod nifer o dorchau pabi gwyn yn ychydig mwy nag ychwanegiad gweddol fach at y seremoni draddodiadol, mae pawb sydd wedi arsylwi’r diffyg cynnydd yn y ddadl dros y blynyddoedd yn ymwybodol, yn symbolaidd, bod cam hanesyddol wedi cael ei gymryd.  Mae nawr yn llawer haws i bobl eraill i wneud yr un fath.

Fe fydd pawb nawr yn cymryd saib i ymaddasu.  Mae amser hir nes mis Tachwedd nesaf.  Ond, wedi goresgyn y rhwystr, bwriad uwch swyddogion y sefydliadau dan sylw yw parhau gyda threfniant hanesyddol Dydd y Cofio yn Aberystwyth yn y dyfodol.   

Alun Williams, Cynghorydd Sir Ceredigion

Aberystwyth Peace poppies Credit Alun Williams.jpg

Diwrnod y Cofio yn Aberystwyth – cydweithrediad parchus yn amlwg wrth i Pat Richards o Menywod mewn Du Borth & Aberystwyth osod torch pabi gwyn yn ystod y seremoni ger y Gofeb Rhyfel yn Aberystwyth.

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA