Llyfr y Cofio Cymru: Cofio'r rhai a fu farw ddoe a heddiw

Collodd dros 700,000 o filwyr o Brydain eu bywydau ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Amcangyfrifwyd bod tua 3 miliwn o bobl ym Mhrydain wedi colli perthynas agos iddynt. Erbyn 1915 roedd yn amlwg y byddai'n amhosibl dychwelyd cyrff yr holl ddynion a laddwyd ar faes y gad - yn wŷr, yn dadau, ac yn frodyr - felly crëwyd a gofalwyd am fynwentydd ar diroedd tramor. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd anodd o alaru ac o ailadeiladu yn syth ar ôl y rhyfel, roedd ymweld â beddau eu hanwyliaid yn parhau i fod tu hwnt i gyrraedd mwyafrif helaeth o berthnasau'r milwyr.

Yn ystod y blynyddoedd wedi'r rhyfel, roedd pobl yn galw am ffyrdd o gydnabod yr aberth a wnaed gan y dynion yn agosach i adref. Drwy gydol ugeiniau'r ganrif ddiwethaf, bu cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd i ddewis ffyrdd o sicrhau na fyddai enwau eu hanwyliaid yn cael eu hanghofio. Pa bynnag ffurf y byddai hyn yn digwydd, prif nod y weithred oedd sicrhau y byddai pob un o'r rhai a fu farw yn cael ei enwi, ac felly ei gydnabod, a'i gofio.

Er mwyn cydnabod yr aberth hwn ar lefel genedlaethol cynhyrchodd Cymru Gofeb Ryfel Genedlaethol ym Mharc Cathays, a ddadorchuddiwyd gan Dywysog Cymru ym 1928. Yn ôl y Western Mail ar y pryd: ‘the act of a whole race; reserved to that race; meaning more to that race than anything else’. Yn wahanol i nifer o gofebion eraill, ni chafodd enwau'r rhai a fu farw eu nodi arni, ac felly roedd y Llyfr y Cofio Cenedlaethol yn anrhydeddu'r rhai a fu farw ar y cyd â'r gofeb. Wedi'u rhestru fesul catrawd, ar 1,100 o dudalennau o femrwn, mae enwau 35,000 o aelodau'r lluoedd arfog (gan gynnwys rhai merched) a fu'n gwasanaethu ac a fu farw yn y rhyfel wedi'u hysgrifennu mewn caligraffi prydferth ac wedi'u haddurno gan batrymau cymhleth. Er mwyn cael eu cynnwys, roedd yn rhaid bod pobl naill ai wedi gwasanaethu mewn catrawd Gymreig neu wedi'u geni yng Nghymru neu â rhieni o Gymru ac yn gwasanaethu mewn catrawd yn Lloegr.

Yn wreiddiol roedd y Llyfr yn cael ei gadw yn yr Amgueddfa Genedlaethol, ac ym 1938 cafodd ei drosglwyddo i grypt pwrpasol o dan y Deml Heddwch ac Iechyd ym Mharc Cathays. Wedi'i ariannu'n bennaf gan yr Arglwydd David Davies o Landinam, mae'r adeilad yma'n gartref i ddau sefydliad: Cymdeithas Goffa y Brenin Edward VII, a fu'n gweithio tuag at ddileu'r diciâu yng Nghymru ac Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yng Nghymru. Ar fore 23 Tachwedd 1938, trodd Mrs Minnie James o Ddowlais - a oedd yn cynrychioli'r mamau o Gymru a oedd mewn profedigaeth ar ôl y rhyfel (roedd hi wedi colli tri mab yn y rhyfel) - yr allwedd i agor drws y Deml, a adeiladwyd fel 'cofeb i'r dynion dewr o bob cenedl a gollodd eu bywydau yn y rhyfel a oedd i roi terfyn ar bob rhyfel.' Cafodd Llyfr y Cofio Cymru ei roi yn y crypt pwrpasol a gafodd ei adeiladu yn sylfeini'r Deml. Roedd y crypt yn lle i fyfyrio'n dawel - ac mae'n parhau felly hyd heddiw, ac mae'r symbolaeth yn glir: dyma pam y dylem ymdrechu i sicrhau heddwch, dyma yw 'sylfaen' ein gwaith.

Yn 2015, mae'r adeilad yn gartref i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, elusen gofrestredig, a'i gweledigaeth yw bod pawb yng Nghymru yn cyfrannu at greu byd teg a heddychlon. Yn 2014, llwyddodd y Ganolfan i sicrhau cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect 'Cymru dros Heddwch' - a fydd, dros y pedair blynedd nesaf, yn gofyn y cwestiwn: 'Yn ystod y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i sicrhau heddwch?'.

Un o gamau cyntaf y prosiect yw edrych ar effaith rhyfel ac felly, dros y chwe mis nesaf, rydyn ni'n digideiddio Llyfr y Cofio i'w wneud yn hygyrch i bawb ar-lein mewn ffordd na fyddai'n bosibl gyda'r Llyfr ei hunan oherwydd rhesymau cadwraeth. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol eisoes wedi creu copi digidol o'r Llyfr, sy'n golygu bod llun o bob tudalen ar gael. Fodd bynnag, er mwyn i ymchwilwyr, haneswyr a disgynyddion y 35,000 o ddynion allu chwilio'n llwyddiannus am enwau unigol, y cam nesaf yw trawsgrifio. Mae hynny'n golygu teipio pob enw i gronfa ddata a 'thagio' pob enw â gwybodaeth (fel catrawd), fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt.

Mae'n dasg syml ond tasg enfawr, a dyna pam ein bod yn gofyn i gymunedau ein helpu. Ar hyd a lled y wlad rydyn ni'n gobeithio bod cymdeithasau a grwpiau cymunedol y gallwn ni eu cefnogi i gymryd rhan yn o 'Weithred Ddigidol y Cofio' - y cyfan sydd ei angen arnoch yw gliniadur â mynediad i'r rhyngrwyd, ac awr o'ch amser i deipio'r wybodaeth rydych chi'n ei gweld yn y llun digidol.

Wrth lansio ein prosiect yng Nghymru ar Ddydd y Cadoediad yn 2015, rydyn ni'n gobeithio cyflawni ein rhwymedigaethau i'r gwŷr a'r gwragedd sydd wedi'u rhestri yn y Llyfr: i sicrhau na fydd eu henwau yn cael eu hanghofio am gan mlynedd arall.

Os ydych chi'n aelod o grŵp neu gymdeithas a fyddai'n hoffi cymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn, cysylltwch â thîm 'Cymru dros Heddwch' yn y Deml: walesforpeace@wcia.org.uk, neu ffoniwch 029 2082 1051.

Back

COFRESTRWCH I GAEL NEWYDDION

WCIA